| |
Cynhyrchu / Dyblygu DVD
Fe allwn gynhyrchu DVDs o ddeunydd crai yn uniongyrchol
gan y cleiant, trawsnewid deunydd VHS i gyfrwng DVD
ac hefyd copïo DVDs gwreiddiol.
Dyblygu CD a CD-Extra
Fe allwn gynhyrchu CDs o gerddoriaeth gan y cleiant,
mae gan Gwynfryn stiwdio recordio wedi’i hadeiladu
i’r pwrpas, yn cynnig recordio a mastro amldrac
digidol i CD. Fe fydd cynhyrchwyr a cherddorion sesiwn
ar gael i roi arweiniad lle bydd angen. Hefyd rydym
yn cynnig gwasanaeth copïo a dyblygu nifer o CDs.
Cliciwch yma I weld CDs
sydd wedi eu cynhyrchu gan Gwynfryn Cymunedol.
Cynhyrchu Fideos Quicktime
Fe allwn gynhyrchu fideos Quicktime™ yn arbennig
ar gyfer eu rhoi ar CD yma yn ein stiwdio.
Hefyd fe allwn gynnig:
Cysodi a chynllunio graffeg.
Golygu ffilmiau a lluniau.
Printio ar wyneb y CD.
Pacio’r CD mewn seloffen.
Cyngor trwyddedu a hawlfraint.
Galwch 01286 650 523 am ragor
o wybodaeth
Neu gyrrwch e-bost atom ar: gwynfryncymunedol@hotmail.com
Gwynfryn Cymunedol Cyf.
Y Stiwdio: Snowdonia Park, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd
LL55 4AQ
Y Swyddfa: Uned 4, Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon,
Gwynedd LL55 1SQ
|




|